Arbenigwr dur a metelau SaMI yn cyhoeddi llyfr
Gwnaethom siarad â Dr Zak Abdullah, cymrawd trosglwyddo technoleg (TTF) yn SaMI, am ei rôl anrhydeddus fel prif olygydd academaidd llyfr newydd ynghylch castio a modelu systemau aloi metelaidd.
1. Zak, rydych chi wedi golygu llyfr yn ddiweddar, sut digwyddodd hynny?
Mae dod yn brif olygydd yn bwnc sydd wedi codi wrth olygu papurau ymchwilwyr eraill o bedwar ban byd ar gyfer cyfnodolion arbenigol. Mae’n hollol anrhydeddus ac yn wirfoddol, er mwyn rhoi cymorth academaidd yn fy maes arbenigol. Mae fy enw wedi denu cyhoeddusrwydd oherwydd fy ngwaith dros y blynyddoedd mewn gwyddor deunyddiau a pheirianneg ac yn fwyaf diweddar mewn ymchwil i ddur a metelau. Cyhoeddir y prosiect llyfr ‘Casting Processes and Modelling of Metallic Materials’ (https://www.intechopen.com/books/casting-processes-and-modelling-of-metallic-materials) gan gyhoeddwyr InTech Open.
2. Am ba faes ymchwil i ddur a metelau y mae’r llyfr?
Mae’r llyfr yn archwilio’r gwahanol weithgareddau castio a modelu sy’n gysylltiedig â systemau aloi metelaidd. Mae’n darparu technegau arloesol i gefnogi’r gymuned ymchwil mewn gwahanol brosesau a modelau castio, ac yn trafod y problemau a’r atebion posibl.
Dros y blynyddoedd, mae gwahanol fodelau wedi cael eu cynnig a’u defnyddio er mwyn rhagfynegi perfformiad castinau. Cafodd rhai modelau eu profi’n gywir, ond methodd eraill i ragfynegi perfformiad castinau. Mae cryfder cyfarpar rhagfynegi yn dibynnu ar ddefnyddio paramedrau sy’n ystyrlon yn ffisegol ac yn atgynhyrchu’r perfformiad ei hun. Dangosir hyn yn y llyfr ar ffurf modelau rhagfynegi a modelu elfennau meidraidd er mwyn dangos ymddygiad castinau mewn amodau bywyd go iawn.
3. Ai dyma eich tro cyntaf fel golygydd llyfr? Beth mae’n ei olygu i chi’n bersonol ac yn broffesiynol?
Hyn oedd y tro cyntaf imi gael fy ngwahodd i fod yn olygydd llyfr academaidd. Roedd y rôl yn gofyn imi gynnig enw’r llyfr, y cyflwyniad, y rhagarweiniad, geiriau allweddol a chynnwys. Roedd yn cynnwys adolygu’r ymchwil a gyflwynwyd a rhoi adborth adeiladol i ymchwilwyr cyn rhoi fy nhymeradwyaeth a’i derbyn yn derfynol. Dewisais y teitl yn fwriadol er mwyn ei gysylltu â’r ymchwil i ddur a metelau yr ydym yn ei chynnal yn SaMI ac er mwyn iddo fod yn berthnasol i ddatblygu deunyddiau a chastio. Mae’r rôl wedi cyfoethogi fy ngwybodaeth yn y maes ymchwil hwn yn ogystal â’m gallu fel ymchwilydd academaidd.
4. Beth oedd rôl eich cyd-olygydd, Dr Nada Aldoumani? Oeddech chi eisoes yn adnabod Dr Aldoumani?
Roedd Dr Nada Aldoumani yn gyd-ymchwilydd cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddi gefndir mewn Peirianneg Strwythurol ac mae’n arbenigwr mewn deunyddiau ar gyfer cymwysiadau strwythurol ochr yn ochr â’i gwybodaeth helaeth mewn modelu elfennau meidraidd, codio MATLAB, efelychiadau ANSYS, Meintioli Ansicrwydd a Bondio ac Optimeiddio Adlynion. Rwyf wedi gweithio gyda Dr Aldoumani ar sawl cyhoeddiad a hefyd rydym wedi adolygu’r llyfr ynghylch castio yn annibynnol. Gyda’r llyfr hwn, roedd ei rôl yn canolbwyntio’n bennaf ar ran fodelu’r prosiect o ran castio ac efelychu ac arloesedd modelau o’r fath yn y maes hwn.
5. Dywedwch ychydig wrthym am y broses golygu llyfr, a beth sy’n rhan ohoni. Sut ydych chi’n cydbwyso hyn â’ch rôl fel cymrawd technoleg a throsglwyddo dur a metelau yn SaMI?
Mae rôl prif olygydd academaidd yn gyffrous ac yn heriol. Roedd y profiad yn hyblyg, yn fuddiol ac yn rheoladwy yn fy marn i.
I ddechrau, roedd rôl y golygydd academaidd yn gofyn imi adolygu crynodebau’r papurau arfaethedig wrth iddynt gael eu cyflwyno. Bydd y golygydd academaidd yn gwirio’r adroddiadau llên-ladrad a newydd-deb a gwreiddioldeb y gwaith. Adolygir yr agweddau technegol ar y gwaith a gyflwynir, a rhoir adborth i awduron. Gallai’r broses adolygu gymryd ychydig o oriau neu sawl diwrnod, gan ddibynnu ar gynnwys pob cyflwyniad. Yr amser delfrydol imi wneud y gwaith asesu hwn yw gyda’r hwyr, ar y penwythnos, neu pan hoffwn i gael saib o’m harferion beunyddiol.
Rwyf yn gwneud fy ngorau glas i fodloni gofynion fy rôl fel cymrawd technoleg a throsglwyddo yn SaMI yn ogystal â’m rôl fel academydd. Mae rheoli amser yn elfen hanfodol ar reoli nifer o dasgau. Rwyf yn credu’n gryf fod hyn yn un o’m cryfderau mewn bywyd.
6. Beth gwnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am olygu’r llyfr? A oedd pethau y gwnaethoch eu dysgu amdanoch eich hun a’ch maes ymchwil i ddur a metelau?
Pan rwyf yn meddwl yn ôl am yr holl brosiect o’r camau cynllunio cynnar yn cynnig teitl hyd at y cam cyhoeddi, rwyf yn teimlo’n falch iawn o’m cyflawniad. Mae’r llyfr wedi cael ei gyhoeddi ledled y byd a’i lawrlwytho cannoedd o weithiau ymhen mis neu ddau ar ôl ei gyhoeddi.
Rwyf yn ystyried yn gryf fod hyn yn brofiad rhagorol gan ei fod wedi fy ngalluogi i ddefnyddio fy arbenigedd yn y maes yn ogystal â denu sylw i’m henw yn y gymuned ymchwil.
Wrth adolygu’r cyflwyniadau ar gyfer y llyfr, cwrddais â sawl academydd gan gynnwys yr Athro John Campbell, peiriannydd Prydeinig ac un o brif arbenigwyr y byd yn y diwydiant castio. Anfonodd yr Athro Campbell gopi o un o’i lyfrau ataf ac mae wedi dangos diddordeb go iawn yn y gwaith ymchwil ac arloesi dur a metelau a gynhelir yn SaMI. Rwy’n credu efallai na fyddwn wedi gallu cwrdd ag ysgolheigion megis yr Athro Campbell petawn i ddim yn olygydd academaidd.
Mae’r llyfr ‘Casting Processes and Modelling of Metallic Materials’ wedi cyfoethogi fy mhrofiad mewn prosesau castio a datblygu deunyddiau, wrth ehangu fy rhwydwaith o arbenigwyr dur a metelau o bedwar ban byd. Fel cydnabyddiaeth o’r cyflawniad hwn, rwyf wedi cael fy ngwahodd eto i ddechrau prosiect llyfr newydd fel golygydd academaidd. Y teitl rwyf wedi ei ddewis yw ‘Advances in Fatigue and Fracture Testing and Modelling’ sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’m gweithgareddau beunyddiol yn SaMI.
Cyfweliad gyda Dr Zak Abdullah, Mawrth 2021.