Cydweithio rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd yw’r unig ffordd o gyrraedd sero net Cymru
Allyriadau carbon sero net ym myd diwydiant
Mae’n rhaid i ni leihau lefel yr allyriadau ym myd diwydiant a chyrraedd allyriadau carbon sero net i’r amgylchedd. Ond mae angen economi ranbarthol a sylfaen ddiwydiannol i gefnogi’r economi. Mae hyn yn hollbwysig mewn rhanbarthau diwydiannol fel de Cymru.
Wrth symud i’r atebion newydd hyn ar gyfer byd diwydiant â thechnolegau carbon isel, nid ydym am wthio’r broblem o gwmpas yn y pen draw. Mae angen i ni ymateb mewn ffordd gyfrifol ac yn y ffordd gywir.
Mae arloesi er mwyn i’n gweithfeydd gweithgynhyrchu yng Nghymru aros ar agor yn golygu ein bod yn ymatal rhag allforio problem carbon uchel byd diwydiant i wledydd eraill fel Tsieina. Nid yw cau gweithgynhyrchu’r Deyrnas Unedig a dibynnu ar wledydd eraill yn datrys problem allyriadau ac nid yw’n gyfrifol yn fyd-eang.
Cymru sero net
Byddai sgil-effaith i’r gymuned a’r cadwyni cyflenwi pe tasem yn colli ein diwydiant yn ne Cymru. Byddai swyddi i bobl sy’n gweithio yn y diwydiant yn cael eu colli. Bydd pobl, nid diwydiannau yn unig, yn symud o’r rhanbarth.
Gall y penderfyniadau ynglŷn â ble i brynu cynhyrchion effeithio ar gyfoeth rhanbarth. Er enghraifft, os oes rhaid i chi brynu dur yn rhyngwladol mae’n costio mwy.
Os ydych chi’n ystyried sut rydym yn datblygu atebion ar gyfer adeiladu mwy o gartrefi er enghraifft, mae’n ymwneud ag ystyried atebion fforddiadwy i gymunedau. Mae angen i chi edrych ar sut gall y rhanbarth elwa o’r gadwyn gyflenwi.
Mae fforddiadwyedd a chyflenwi’n hanfodol ar gyfer Cymru sero net sy’n decach i bawb.
Mae prynu cynhyrchion ac atebion o Gymru oherwydd bod yr arbenigedd a’r cyflenwad yma, yn hytrach na mewnforio, yn hynod fuddiol i’r economi ranbarthol. Mae peidio â dibynnu ar wledydd eraill am greu’r dur sydd ei angen arnom ar gyfer tai, trafnidiaeth a phecynnu yn hynod fanteisiol yn ariannol.
Mae cadw’r bobl a’r sylfaen sgiliau sydd gennym ym myd gweithgynhyrchu, yn ogystal ag arwyddocâd diwylliannol hanesyddol byd diwydiant yn y rhanbarth, yn fuddion cymdeithasol hanfodol sy’n hollbwysig mewn Cymru sero net.
Rhanbarth sy’n addasu at newid
Mae rhagweld, arloesi ac ymwybyddiaeth fyd-eang yn allweddol os ydym yn mynd i addasu at newid. Mae creu’r agwedd a’r amgylchedd hwnnw yn ne Cymru, sut rydym yn ymateb i newid, sut rydym yn rhagweld newidiadau economaidd a chymdeithasol ac yn ymateb iddynt, yn hanfodol wrth i ni ddarparu atebion sero net.
Mae heriau cymdeithasol ehangach yng Nghymru sy’n mynd law yn llaw â’r her hinsawdd, ac, yn hollbwysig, mae angen arloesedd a hyblygrwydd i fynd i’r afael â’r rheiny hefyd.
Wrth i ni ddod o hyd i atebion, mae angen i ni roi’r atebion hynny yn ôl i’r gymdeithas, er mwyn sicrhau bod y gymdeithas yn elwa o newidiadau. Mae hyn yn cynnwys addysg, sgiliau, gwybodaeth, swyddi, mae’r rhain i gyd yn heriau y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw wrth inni symud tuag at Gymru sero net sy’n gwneud y gymdeithas yn decach, ac nid yn anoddach, i bawb yn y rhanbarth.
Mae prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwybodaeth ymchwil a sgiliau hanfodol sy’n helpu’r diwydiant i hyfforddi a chadw ei weithlu. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni ddarparu atebion sero net lle mae pobl yn chwarae rhan annatod.
Rôl prifysgolion wrth sefydlu Cymru sero net
Mae mynd i’r afael â sero net yn broblem ar draws diwydiannau gwahanol. Nid problem y gall un diwydiant ei datrys ar ei ben ei hun yw hon. Os ydych yn gadael byd diwydiant i ddatrys y broblem ar ei ben ei hun, ni all ddatrys y broblem, nid y broblem gyfan. Wrth iddynt ddod o hyd i’w datrysiadau eu hunain, mae diwydiannau’n symud y broblem i rywun arall, i ddiwydiant arall.
Mae angen i chi ddod â diwydiannau at ei gilydd.
Dyma rôl prifysgolion. Mae dod ag arbenigwyr amlddisgyblaeth i mewn yn sicrhau y gallwn gyflymu atebion a newid. Mae dod â diwydiannau ynghyd yn cyfuno gwybodaeth ac arbenigedd i ddod o hyd i atebion. Mae dod â byd diwydiant a’r byd academaidd i weithio’n agos yn darparu atebion sydd o fudd i bawb.
Mae gan bartneriaethau cydweithredol rhwng prifysgolion a’r byd academaidd y pŵer i sicrhau newid parhaol go iawn ar gyfer Cymru sero net a byd sero net.
Cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022
Cyfrannwyd gan Debbie Baldrey, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dur a Metalau