Swydd raddedig yn SaMI yn darparu awtonomi, ymddiriedaeth a chanlyniadau ymarferol ar gyfer diwydiant
Mae Emma Williams yn siarad am ei rôl yn SaMI lle ymddiriedir ynddi i ymgymryd â’r gwaith ymchwil ymarferol mae hi wrth ei bodd yn ei wneud.
Rôl yn SaMI
Rwy’n gweithio yng nghyfleuster Sintec SaMI gyda’r rig gostwng, yr efelychydd twym ‘HOSIM’, profi SOUR a’r ffwrneisi tiwb a llorweddol. Edrychaf ar y samplau o ddeunyddiau sy’n dod i mewn gan ddiwydiant a sut y gall nwyon a thymereddau effeithio ar ostwng y cynnyrch dan sylw yn gyffredinol dan amgylchoedd eithafol megis y rhai a ddefnyddir wrth greu dur.
Gan ein bod ni’n canolbwyntio ar helpu diwydiant i leihau ei allyriadau carbon, un ffordd rydym yn gwneud hyn yw drwy edrych ar ddefnyddio nwyon eraill sy’n well o safbwynt amgylcheddol ond sydd hefyd yn well ar gyfer y broses ddiwydiannol yn gyffredinol. Drwy wneud hyn ar raddfa lai yn SINTEC, mae diwydiant yn gallu gweld sut gallwn ni helpu i wella’r broses yn y dyfodol.
Fy Nghefndir
Ar ôl graddio mewn peirianneg deunyddiau, gwnes i gwblhau gradd Meistr mewn ffiseg feddygol gan edrych ar sut y defnyddir ymbelydredd yn y maes meddygol. Roedd hyn yn cynnwys llawer o wyddor data a chynllunio triniaeth ar gyfer canser. Roeddwn i’n ymchwilio i ddull mwy effeithiol ar gyfer canfod canser eilaidd yn gynnar cyn y byddai fel arfer yn dangos mewn sganiau cyfredol.
Drwy roi proses peirianneg ar waith o’r enw dadansoddi gwead, datblygais i ddull ar gyfer mapio’r asgwrn cefn er mwyn canfod abnormaleddau a fyddai’n dangos bod canser yn bresennol yn yr asgwrn cefn. Gallai hyn helpu i wella lefel y gofal a roddir i gleifion canser trwy ganfod canser eilaidd yn gynt a darparu cynllun triniaeth sy’n trin y canser cynradd ac eilaidd ar yr un pryd. Ar hyn o bryd mae claf yn derbyn cynllun triniaeth cychwynnol ar gyfer ei ganser cynradd ac wedyn caiff driniaeth ddilynol ar wahân ar gyfer ei ganser eilaidd.
Roeddwn i’n defnyddio proses peirianneg sy’n eithaf cyffredin ac yn ei chymwyso i’r maes meddygol er mwyn edrych ar driniaethau arloesol ar gyfer canser. Gyda’m cefndir mewn peirianneg, roeddwn i’n gweithio ochr yn ochr â phobl ag arbenigedd mewn ffiseg, gofal y GIG ac ymarfer gofal iechyd preifat.
Roedd gan bawb syniadau a blaenoriaethau gwahanol ac roedd yn dda gallu cymharu’r syniadau hyn, gan edrych ar bethau o safbwyntiau gwahanol gyda syniadau gwahanol a chan gydweithio er mwyn dod â’r cyfan at ei gilydd. Mae’r math hwn o ymchwil amlddisgyblaethol yn hanfodol er mwyn darganfod datblygiadau arloesol sy’n gallu cael effaith go iawn a gwella cymdeithas.
Gweithio yn SaMI
Rwy’n hoff iawn o’r ochr ymchwil ymarferol. Yr ymchwil ymarferol a gallu gweld i ba gyfeiriad mae pethau’n mynd. Gallu gweld y broses a’i deall drwy weld sut mae’r holl beth yn cael ei wneud. Mae gallu dweud “fi wnaeth hynny” a bod â rhywbeth i’w ddangos ar ddiwedd y peth yn rhoi boddhad imi.
Fy hoff beth am weithio yn SaMI yw bod pobl yn ymddiried ynof i wybod beth rwy’n ei wneud, maent yn ymddiried ynof i ymgymryd â’r ymchwil – sy’n wahanol iawn i sefyllfa llawer o’m ffrindiau. Credaf ei bod hi’n eithaf prin i gael y lefel honno o ymddiriedaeth i ymgymryd â’r swydd a roddwyd i chi yn syth ar ôl graddio o’r brifysgol. Rydw i wir yn gwerthfawrogi hynny.
Rwy’n mwynhau gweithio mewn tîm bach fel SaMI lle rydych chi’n adnabod pawb sy’n gweithio yn yr adrannau gwahanol. Mae pawb yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd. Rwy’n gallu gofyn cwestiynau i bawb. Gan fod llawer o’r gwaith rydw i’n ei wneud yn dal i fod yn newydd iawn i mi, dydw i ddim yn teimlo’n dwp wrth holi pobl am bethau. Mae hefyd yn dda gallu gwneud ymchwil i’r un brifysgol es i iddi – mae’n cyd-fynd yn dda â’m hanes yma ac mae’n neis gallu aros yn yr un lle.
Rwy’n mwynhau bod yn y gwaith. Mae’n amgylchedd cyfeillgar. Gallwch sgwrsio â’ch gilydd heb deimlo eich bod yn cael eich gwthio i gyflawni targedau. Er bod pawb yn cyflawni targedau, mae’r amgylchedd yn dal i fod yn un hamddenol iawn.
Eich dyfodol yn SaMI
Roeddwn i’n ystyried dod o hyd i swydd neu astudio ar gyfer PhD felly mae gennyf ddiddordeb mewn prosiectau ymchwil. Yn ddiweddar ces i dasg gan un o’n cwsmeriaid diwydiannol sy’n edrych ar ffynhonnell tanwydd amgen ac a oes modd ei defnyddio’n rhywle arall yn y broses. Rydw i’n gyffrous iawn am wneud hyn. Mae hefyd yn cynnwys gweithio wrth ochr adrannau SaMI eraill megis nodweddu.
Yn y dyfodol edrychaf ymlaen at ymgymryd â mwy o’m prosiectau ymchwil fy hun fel yr un yma yn SaMI.
Cyhoeddwyd ym mis Awst 2022
Cyfrannwyd gan Emma Williams, Cynorthwy-ydd Cymorth Technoleg