Mae Sefydliad Dur a Metalau SaMI yn gyfleuster mynediad agored sy’n gweithio’n bennaf gyda’r diwydiant dur a metelau i gyflawni atebion arloesol, ymarferol.
Mae ein harbenigwyr yn dylunio ac yn gweithredu ymchwil bwrpasol drwy bartneriaethau ymchwil ar y cyd yr ydym yn eu sefydlu gyda gweithgynhyrchwyr, cyflenwyr a defnyddwyr dur a metelau.
Mae SaMI’n cefnogi’r diwydiant dur a metelau yn yr her i ddatgarboneiddio drwy gynnyrch a phrosesau carbon is, lleihau allyriadau carbon a chreu economi gylchol.
Rydym yn canolbwyntio ar nodi atebion i heriau’r diwydiant gan gynnwys optimeiddio cynnyrch a phrosesau, trwy glwstwr cydweithredol o allu ymchwil gwell.
Mewn partneriaeth â diwydiant, ein nod yw gwella cyfnewid gwybodaeth, gan sicrhau bod ein haelodau’n cyflymu. Trwy gymryd rôl arwain yn y rhwydwaith dur a metelau, byddwn yn darparu cyfleoedd a chyfleusterau ar gyfer menter gydweithredol.
Wedi’i agor ym mis Chwefror 2018, rydym yn cychwyn ar ein taith uchelgeisiol i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes arloesi dur a metelau. Gwyliwch y fideo isod i weld ein cynnydd wrth sefydlu ein cyfleusterau.
Sylwadau gan Peter Warren, British SteelMae gan Mike Dowd arbenigedd a phrofiad sylweddol ac, yn unigryw, mae’n darparu dadansoddiad llawn o’r canlyniadau gyda dealltwriaeth werthfawr. Rhwng British Steel a Tata Steel, rydym ni wedi gweithio’n agos gyda Mike i ddatblygu rhaglen brofi wedi’i diweddaru er mwyn ail-greu’n well yr amodau mewn ymarfer ffwrnais chwyth fodern gyda chyfraddau cyflwyno glo a chyflwyno nwy uchel. Mae safon y gwaith a’r dadansoddi gan SaMI wedi bod o’r safon uchaf.
Sylwadau gan Dr Chris Weirman, Cyfarwyddwr Technoleg, Wall Colmonoy Cyf.Mae dealltwriaeth drylwyr Mike Dowd o faes ymwrthedd rhydu arddwysedd uchel wedi galluogi mabwysiadu ystod o feini prawf profi. Dim ond drwy weithio’n agos gyda SaMI fyddai’r profi hwn yn bosibl. Mae hyn wedi rhoi mantais i ni wrth ddeall perfformiad y cynnyrch ar lefel fwy manwl. Rydym ni’n ddiolchgar iawn bod ymagwedd SaMI yn ein galluogi ni fel busnes bach neu ganolig i gael opsiwn i ymchwilio i’r data hyn.