Atebion ymchwil ymarferol ar gyfer arloesi dur
Mae Dr Barrie Goode wedi gweithio mewn rolau technegol uwch ar draws y diwydiant dur mewn gyrfa sy’n cwmpasu 25 o flynyddoedd. Mae Barrie’n esbonio sut mae SaMI yn cydweithio ar draws y diwydiant dur a’r gadwyn gyflenwi i ddarparu atebion ymarferol sy’n cefnogi arloesi dur.
Sut ydych chi’n helpu’r tîm yn SaMI gydag arloesi dur?
Rydym yn gwneud llawer o waith datblygu aloiau – toddi, rholio, piclo a chaledu. Mae gan SaMI y cyfleuster i brofi a dadansoddi cynhyrchion i sicrhau eu bod yn bodloni’r rhagofynion. Mae SaMI yn unigryw gan ei fod yn un o’r ychydig gyfleusterau yn y DU sy’n cynnig cadwyn ysgogi gyflawn ar gyfer dur.
Mae SaMI yn canolbwyntio ar arloesi dur. Rydym yn canolbwyntio ar helpu’r rhai sy’n cynhyrchu, yn cyflenwi ac yn defnyddio dur i addasu i heriau presennol megis datgarboneiddio a sero-net. Mae hyn yn cynnwys y diwydiannau adeiladu, ynni a thrafnidiaeth, yn ogystal â’r diwydiant dur ei hun. Rydym yn gwybod bod angen i’r diwydiant fynd i’r afael â thargedau datgarboneiddio’r llywodraeth ac rydym yn canolbwyntio ar atebion ymarferol ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor.
Mae datgarboneiddio diwydiant sy’n cynhyrchu llawer o garbon yn cynnwys helpu cwmnïau i sefydlu prosesau a chynhyrchion arloesol. Rydym am helpu cwmnïau i arloesi a moderneiddio er mwyn iddynt fod yn addas i weithredu yn y dyfodol. Mae’n ymwneud â mynd i’r afael â materion cylch bywyd cynhyrchion a’r economi gylchol.
Mae’r arloesi dur a’r ymchwil gysylltiedig a wnawn yn SaMI yn ymwneud â pharatoi diwydiant dur a metelau’r DU ar gyfer y dyfodol – nid yw’n ateb tymor byr.
Pa mor bwysig yw atebion ymchwil arloesol ym maes arloesi dur?
Y peth allweddol yma yn fy marn i yw ‘atebion ymarferol’. Mae’r arloesi dur a wnawn yn SaMI yn canolbwyntio i raddau helaeth ar helpu diwydiannau gyda beth bynnag y mae ei angen arnynt ar gyfer cynhyrchion a phrosesau mwy effeithiol.
Er enghraifft, cynhyrchwyr dur y mae angen systemau datblygu prosesau a chynhyrchion aloi ac i lawr y gadwyn effeithiol arnynt – mae hynny’n cymryd amser ac mae’n ddrud. Mae llawer o risg gysylltiedig ac mae’n cynnwys prosesu symiau mawr o gynhyrchion. Yn SaMI gallwn efelychu ar raddfa beilot i liniaru’r risg wrth gyflwyno cynhyrchion newydd ar lefel ddiwydiannol.
Gallwn efelychu’r broses ar raddfa fawr i alluogi cwmnïau i drosglwyddo i’r safle gwaith a mynd yn syth ymlaen i’r cam cynhyrchu gan wybod eu bod yn gallu gwneud hynny’n ddiogel ac yn effeithiol mewn cyfnod sylweddol fyrrach na phe byddant yn gwneud hynny eu hunain yn fewnol.
Sut mae SaMI yn darparu arloesi dur?
Mae’r diwydiant dur bob amser wedi buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi. Yr hyn rydym yn ei wneud yn arbennig o dda yma yn SaMI yw addasu’n hymagwedd at arloesi dur.
Mae digonedd o sefydliadau sy’n mynd i’r afael ag arloesi dur, ond maent yn tueddu i ddefnyddio cyfarpar pwrpasol drud. Y broblem o ran hynny yw nad oes modd cynnal a chadw’r cyfarpar yn rhwydd na’i addasu at ddibenion profi ar gyfer y dyfodol er mwyn mynd i’r afael â phroblemau ac atebion newydd. Felly, mae’r sefydliadau ymchwil ac arloesi hyn wedi cyfyngu eu gwaith profi i brosesau ac atebion penodol nad oes modd iddynt gael eu haddasu at ddibenion eraill yn y pendraw.
Yn SaMI rydym wedi cyfuno gallu ystod helaeth a sefydledig o ddulliau profi cymhleth â’r amgylchedd, yr wybodaeth a’r gallu i ddylunio, profi, dehongli a darparu dadansoddiad cadarn o argymhellion i gwmnïau eu mabwysiadu.
A yw ymagwedd SaMI at arloesi dur yn unigryw?
Dydw i ddim yn ymwybodol o neb arall â’r un ymagwedd â SaMI.
Rydym yn cyfuno arbenigedd ac offer ag ymagwedd ystwyth er mwyn diwallu anghenion y diwydiant dur heddiw ac yn y dyfodol. Mae gennym yr amgylchedd addasadwy cywir, y bobl gywir a’r cyfleusterau cywir, ynghyd â’r gallu ymchwil i ddylunio, profi, ysgogi a dadansoddi prosesau amgen.
Daw ein pobl o ystod o gefndiroedd a disgyblaethau gwahanol. Mae tîm SaMI yn cyfuno gwybodaeth ymarferol am y diwydiant ag arbenigedd academaidd. Mae’n cymryd amser hir i gronni’r wybodaeth a’r arbenigedd hyn ac nid oes modd eu dynwared yn rhwydd neu’n gyflym.
O gyfuno hynny â’n hymagwedd at wneud newidiadau bach i gyfarpar er mwyn gallu gwneud rhywbeth nad yw’r cyfarpar wedi’i ddefnyddio i’w wneud o’r blaen, a dyna’r hyn, yn fy marn i, sydd mor arbennig ac unigryw am ymagwedd SaMI at arloesi dur.
Cyhoeddwyd mis Hydref 2021.
Barrie Goode yw Rheolwr Gweithrediadau a Masnachol y Sefydliad Dur a Metelau ym Mhrifysgol Abertawe.