Dur fel economi gylchol
Yn yr ail yn ein cyfres ynghylch dyfodol dur, mae Becky Waldram* yn esbonio sut mae newid yn ein defnydd a throsi i economi gylchol yn hanfodol ar gyfer y diwydiant dur a dyfodol sy’n sero net o ran carbon.
Mae’r diwydiant dur yn datblygu’n barhaus, gan uwchraddio er mwyn cynnwys cyfarpar, arferion a thechnolegau newydd.
Mae’r diwydiant dur yn rhanddeiliad allweddol ym maes datgarboneiddio byd-eang ac mewn dyfodol sy’n sero net o ran carbon. O adeiladu i drafnidiaeth, gweithgynhyrchu i greu ynni a’r tu hwnt. Nid oes modd gwadu mai dur yw’r deunydd allweddol yn y gymdeithas fodern.
Allyriadau carbon dur
Mae allbwn byd-eang y diwydiant wedi codi i 1.8 biliwn o dunelli o gynnyrch crai y flwyddyn, gyda 3.6 biliwn o dunelli o CO2 cysylltiedig yn cael eu rhyddhau i’r amgylchedd.
Yn y DU yn unig, mae cynhyrchu dur yn cyfrif am 15% o gyfanswm yr allyriadau CO2 diwydiannol blynyddol ar hyn o bryd, oherwydd hollbresenoldeb dur yn y byd modern.
Mae’r DU yn cyfrannu tua 7 miliwn o dunelli o ddur a 15 miliwn o dunelli o CO2 o bum cyfleuster dwys a fydd yn galluogi ymagwedd benodol a rheoladwy at ddatgarboneiddio.
Dur ac economi gylchol
Gan fod poblogaeth y byd wedi tyfu ac wrth i safonau byw wella, mae ein defnydd o ddur wedi cynyddu i lefel sy’n niweidio’r amgylchedd.
Mae’n rhaid addasu’r model economi linol presennol lle defnyddir deunydd drwy’r broses cymryd-creu-defnyddio-gwaredu. Mae’n rhaid ei addasu er mwyn cynnwys mwy o egwyddorion economi gylchol drwy roi systemau gwell ar waith ar gyfer ail-ddefnyddio, ailwampio, ail-weithgynhyrchu ac ailgylchu nwyddau sydd ar ddiwedd eu hoes.
Mae’n rhaid i fyd diwydiant a defnyddwyr newid o ystyried bod nwyddau sydd ar ddiwedd eu hoes yn wastraff i ystyried, fel arall, gyfoeth adnoddau a deunyddiau crai y gellid eu hail-ddefnyddio.
Arweinydd dur byd-eang am newid
Mae digwyddiadau amgylcheddol a byd-eang diweddar megis pandemig Covid-19 wedi dangos bod ailddefnyddio ac ailgylchu’n lleol yn hanfodol.
Mae prosesu mwyn crai, glo neu hyd yn oed nwyddau dur gorffenedig wedi’u mewnforio o wledydd sydd â thargedau o ran yr hinsawdd sy’n llai uchelgeisiol ac yn llai atebol, ond yn ailgyfeirio’r ynni a’r CO2. Yn lle hynny, dylem symud tuag at fod yn gylchol gyda’r canlyniad â’r ynni / CO2 isaf. Gallwn wneud hyn drwy gaffael a defnyddio deunyddiau mor lleol â phosibl, a dylunio nwyddau i’w hail-ddefnyddio, eu hatgyweirio a’u hail-weithgynhyrchu.
Gall y diwydiant dur ddod yn arweinydd byd-eang ar gyfer y newid hwn. Gall dur bennu’r meincnod fel arweinydd mewn technolegau gwyrddach, glannach a mwy clyfar, yn y diwydiannu sylfaenol.
Dur a sero net
Dim ond drwy ddatblygu a defnyddio’r technolegau, prosesau a modelau busnes digidol diweddaraf y gallwn alluogi dyfodol sero net o ran carbon. Yn ogystal â rhoi polisïau a fframweithiau addas ar waith er mwyn annog bod yn gylchol.
Er mwyn creu’r newid hwn yn y DU, mae’n hanfodol bod grwpiau ymchwil, byd diwydiant a’r llywodraeth yn gweithio ar y cyd. I rannu arferion gorau a chanlyniadau profi technolegau newydd. I ddatblygu modelau busnes newydd sy’n gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi. Ac i annog arferion newydd er mwyn lleihau allyriadau, deunydd gwastraff a chostau gweithgynhyrchu.
Dim ond drwy weithio ar y cyd y gallwn hybu’r newid hwn i economi gylchol y mae ei hangen ar gyfer y diwydiant dur i hybu datgarboneiddio a dyfodol sero net o ran carbon.
Cyfrannwyd gan Becky Waldram, Mawrth 2021.
*Mae Becky yn swyddog allgymorth ar gyfer Sustrans (www.sustainsteel.ac.uk), sy’n cefnogi ymchwil arloesol ar y cyd â nifer o’i bartneriaid, am ddiwydiant dur yn y DU sy’n gynaliadwy ac wedi’i ddatgarboneiddio.