Dyfodol adferiad dur a gwyrdd, Brian Edy
Yn y gyntaf o’n cyfres ni ar ddyfodol dur, mae cyfarwyddwr sefydlu SaMI, Brian Edy*, yn rhannu’i farn am ddyfodol dur y DU a rôl y diwydiant yn adferiad gwyrdd y DU.
Mae gweithio ym maes dur wedi rhoi cymaint o gyfleoedd a phrofiadau gwych imi. Pan gefais y cyfle i greu canolfan arloesi dur, ystyriais ef yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl.
Gweledigaeth SaMI
Sefydlon ni SaMI ym Mhrifysgol Abertawe i gefnogi’r gwaith o arloesi ym maes dur yn y DU.
Roedd y ffaith ein bod ni wedi gallu arloesi o ran prosesau carbon trwm y diwydiant dur a dod yn arweinydd byd-eang go iawn ym maes arloesi yn sbardun gwirioneddol imi wrth greu SaMI.
Roeddwn i’n ei ystyried yn gyfle i fuddsoddi mewn gweithgynhyrchu ac i warchod a chreu swyddi er budd y cymunedau yr ydyn ni’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw.
Buddsoddiad y DU mewn dur
Ceir lefel o fuddsoddiad y mae ei hangen ar ddiwydiant dur y DU. Gan ein bod ni bellach wedi ymadael ag Ewrop, mae’n bwysicach fyth ein bod ni’n canolbwyntio ar ddatblygiad yn y DU, ac mae’n bwysig ein bod ni’n buddsoddi mewn dur.
Mae gan bob economi lwyddiannus economi ddur gref ac fel cenedl rwy o’r farn bod yn rhaid inni gefnogi’n diwydiant dur. Gallwn ni wneud hyn drwy bolisi’r llywodraeth, drwy arloesi ac addasu technolegau newydd, a thrwy fuddsoddi yn ein seilwaith ynni. Gall yr economi gylchol chwarae rhan fawr hefyd, er enghraifft, o ran datblygu cynnyrch a phrosesau carbon is.
Mae gan y diwydiant dur ei rôl ei hun i’w chwarae hefyd o ran hyrwyddo’i hun yn fwy o ran y manteision y mae’n eu cynnig. Rydyn ni i gyd yn dibynnu ar ddur, mae’r gymdeithas fodern gyfan yn dibynnu ar ddur – mae’n hawdd inni anghofio hynny. Mae dur yno ym mhob rhan o’n bywydau, ond gan ei fod i’w gael ym mhobman, mae’n hawdd inni golli golwg ar hynny.
Adferiad gwyrdd Dur
Mae buddsoddiad a chost yn aml yn canolbwyntio ar brisiau’n unig, o ran “faint bydd hi’n ei gostio i achub y diwydiant dur?”. Ond mae yna gost uwch yma, sef y gost o ran y newid yn yr hinsawdd.
Yn sgîl bygythiad yr argyfwng yn yr hinsawdd, mae cadw, cynyddu a gwella’n gallu i weithgynhyrchu yn rhan hanfodol o adferiad gwyrdd y DU. Mae gan ddiwydiant dur y DU gyfle i ddatgarboneiddio’n gyflym. Mae’n rhaid wrth arian i wneud hynny, ond mae angen dewrder hefyd.
Er mwyn peri bod adferiad gwyrdd yn ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd, mae hon yn her y gall SaMI helpu’r diwydiant dur i fynd i’r afael â hi.
Datgarboneiddio dur
Rhan o lwyddiant SaMI yw datblygu’r ddealltwriaeth honno o’r manteision a geir yn sgîl cydweithredu o safbwynt ymchwil ac arloesi.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda sefydliadau yn y diwydiant dur, byddwn ni’n tasgu syniadau rhyngon ni a’n gilydd am yr hyn y mae angen arnon ni i’w wneud. Drwy gydweithio, rydyn ni’n helpu i roi atebion ymarferol ac yn helpu’r diwydiant dur i arloesi.
Pan aethon ni ati i greu SaMI, roedden ni eisiau creu diwylliant agored, sef diwylliant o rymuso. Mae grymuso yn rhoi rhyddid i bobl wneud eu penderfyniadau eu hunain, i wneud eu camgymeriadau eu hunain, ac yna i ddysgu oddi wrthyn nhw. Dyna mae’r diwydiant dur yn ei wneud, maen nhw’n dysgu oddi wrth gamgymeriadau’r gorffennol er mwyn pontio i ddiwydiant y dyfodol.
Hyd y gwelaf i, yr unig ddyfodol i ddiwydiant dur y DU yw datgarboneiddio.
Cyfraniad gan Brian Edy, Mawrth 2021.
* Ymddeolodd Brian Edy yn 2020. Cyfarwyddwr newydd SaMI yw Debbie Baldrey.