Gwrthrychau COP26: Tystysgrif gradd Fliss
I nodi #COP26, gofynnwyd i staff a myfyrwyr ddewis gwrthrych a oedd yn cynrychioli ein gwaith ymchwil dros weithredu ar yr hinsawdd.
Fy nod COP26 yw fy ngradd Meistr.
Mae hyn yn cynrychioli fy ymchwil ddiweddar i ddylunio lleoedd gweithio.
Rhan o’m rôl yw creu lle gweithio a fydd yn caniatáu i ni gydweithio â phartneriaid ar draws y byd academaidd a byd diwydiant tuag at ein hamcanion ar y cyd i gyflawni datgarboneiddio yn y diwydiannau dur a metelau.
Bydd y lle gweithio cywir yn caniatáu i ni feithrin arloesedd a chreu syniadau newydd i’n helpu i gyflawni’r nodau hyn gyda’n gilydd.