SWITCH-Cyswllt
Maei Sefydliad Dur a Metelau yn rhan o SWITCH-Connect sef rhwydwaith cydweithredol o arbenigedd amlddisgyblaethol ar draws y byd academaidd, diwydiant a’r llywodraeth.
Rydym yn dod at ein gilydd i gyflymu ein trosglwyddiad i Sero Net, yn Ne Cymru a thu hwnt.
Trwy ei gwneud yn hawdd cysylltu â’r bobl, y sgiliau a’r cyfleusterau cywir, byddwn yn cefnogi’r trawsnewid diwydiannol angenrheidiol, gan ganolbwyntio ar ynni a gwresogi, trafnidiaeth a gweithgynhyrchu, sef y sectorau sy’n anodd eu datgarboneiddio.
Trwy ymchwil, hyfforddiant ac arddangoswyr ar raddfa ddiwydiannol byddwn yn creu atebion ymarferol ar gyfer yr heriau mwyaf sy’n ein hwynebu.
Gyda’n gilydd, bydd ein rhwydwaith yn gwneud Cymru yn enghraifft fyd-eang fel lle cynaliadwy, deniadol i bawb fyw, gweithio a gwneud busnes.
Rhagor o wyboaeth am SWITCH-Connect