Lleoliad Myfyriwr SaMI yn Cysylltu Ymchwil a Datblygu â Diwydiant
Am chwe wythnos, bu Tosin Alatise ar leoliad myfyriwr yn ein labordai SaMI ym Mhrifysgol Abertawe. Yma, mae hi’n esbonio beth ddysgodd hi.
Rydw i yn ail flwyddyn fy ngradd Baglor Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg. Mae gen i brofiad o weithio ym maes cynnal a chadw cynhyrchu yn y cwmni ceir moethus Bentley Motors, labordy ymchwil canser UCL, Arcadis, a phrosiect Crossrail yn L’aing O’Rourke. Fy maes arbenigol yw gwyddor deunyddiau, gyda ffocws ar feteleg oherwydd partneriaeth agos Prifysgol Abertawe â Tata Steel Europe.
Dros yr haf, rydw wedi bod yn gweithio yn y Sefydliad Dur a Metelau (SaMI) fel cynorthwyydd labordy nodweddu yn cefnogi ac yn cysgodi Dr Paul J Fitzgerald. Gan fod SaMI yn sefydliad amlddisgyblaethol, rydw I wedi bod yn ffodus i gymryd rhan mewn gwahanol agweddau ar ymchwil a diwydiant hefyd.
Rwy’n canolbwyntio fy amser ar nodweddu metelau, lle rwy’n cynnal ymchwiliadau gyda’r SEM, gan gwblhau prosiectau ar gyfer ystod o gwsmeriaid a meistroli rheolaethau’r SEM wrth i mi fynd ymlaen.
Yn SaMI, rydw i wedi bod yn dysgu am swyddogaethau SEM (Sganio Microsgop Electron) – megis EBSD (canfod gwasgariad cefn electronau), EDS (sbectrosgopeg gwasgaredig ynni) ac OES (sbectrosgopeg allyriadau optegol) – sy’n pennu cyfeiriadedd grawn a chyfansoddiad cemegol. Rydw i wedi cael mewnwelediad i labordy SINTEC, lle mae technegwyr yn efelychu ac yn modelu amgylcheddau nwyol eithafol i brofi deunyddiau, a’r labordy Torri a Blino, lle mae technegwyr yn cynnal profion mecanyddol ar fetelau ac yn ymchwilio i effeithiau breuo hydrogen. Cefais gyfle hefyd i wylio’r broses o gastio a thoddi aloi yn y ffatri beilot.
Yn fy rôl yn SaMI, fy nod oedd ennill profiad ymchwil a gweld sut mae perthynas ymchwil a datblygu â diwydiant yn gweihtio o safbwynt academaidd. Rydw i wedi gallu dysgu am baratoi metallograffig – rydw i wedi ymarfer y broses ac yn ei deall yn llwyr, ac yn edrych ymlaen at gymhwyso hyn i fy mhrosiect olaf yn y Brifysgol.
Rydw i wedi mwynhau gweithio yn SaMI yn fawr. Mae’r bobl yn gyfeillgar, cynnes a chroesawgar dros ben. Mae’r ymchwilwyr wedi bod yn feddylgar iawn, gan sicrhau fy mod i’n rhan o gyflawni datblygiadau diddorol a chyffrous. Rydw i hefyd wedi gallu defnyddio ac ymgyfarwyddo fy hun ag offer sydd aml yn cael eu defnyddio yn y diwydiant, na fyddai myfyrwyr fel arfer yn ei ddefnyddio nes dod i mewn i’r gweithlu.
Yn dilyn fy lleoliad gyda SaMI, rwy’n gobeithio parhau gyda fy addysg a dechrau PhD cyn dechrau fy ngyrfa. Rydw i wedi bod yn rhan o rai prosiectau hynod ddiddorol mewn deunyddiau swyddogaethol a bioddeunyddiau, er fy mod yn credu bod uwchaloiau yn galw fy enw gan yr hoffwn weithio yn F1 ryw ddydd.
Byddai ehangu fy ngwybodaeth fel hyn yn fy ngwneud yn addas ar gyfer gyrfa mewn deunyddiau dan amodau eithafol, megis awyrofod. Gawn ni weld!