Dr Luis Escott
Cynorthwyydd Ymchwil
Fel Doethur mewn Peirianneg a gyda BEng mewn Peirianneg Deunyddiau, mae gan Luis gefndir meteleg cryf gyda chefndir arbenigol mewn nodweddu deunyddiau a phrofion mecanyddol.
Mae’n weithredwr yn yr ardal beilot ac mae’n gymwys i weithredu offer yn SINTEC a labordy profi mecanyddol. Yn ddiweddar cafodd Luis ei secondio fel cynorthwyydd ymchwil ar gyfer y prosiect Prosesu Dur Arloesol, Cyflymu’r Economi Gylchol (i-Space), sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio yn y diwydiant dur drwy ddefnyddio deunydd sgrap. Mae’n datblygu arbenigedd a gallu yn SaMI i gefnogi gweithgareddau economi gylchol, gyda ffocws cychwynnol ar nodweddu a dadansoddi sgrap.