
Yr Athro Debbie Baldrey
Cyfarwyddwr SaMI
Mae Debbie, Cyfarwyddwr SaMI, yn Ddoethur mewn Peirianneg gyda BEng Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, ac mae’n Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant dur, ac mae ganddi rolau uwch arwain amrywiol ym meysydd technegol, gweithgynhyrchu a thrawsnewid strategol.
Daeth Debbie yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Dur a Metelau yn 2020, gan reoli’r gwaith o ddarparu grantiau ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i greu cyfleoedd ymchwil a phartneriaethau effeithiol. Mae hi hefyd yn arwain ar brosiect £20M Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar gyfer datblygu cyfleuster Canolfan Pontio Diwydiannol o Garbon Cymru Gynaliadwy (SWITCH).