Sylwadau gan Peter Warren, British Steel
Mae gan Mike Dowd arbenigedd a phrofiad sylweddol ac, yn unigryw, mae’n darparu dadansoddiad llawn o’r canlyniadau gyda dealltwriaeth werthfawr. Rhwng British Steel a Tata Steel, rydym ni wedi gweithio’n agos gyda Mike i ddatblygu rhaglen brofi wedi’i diweddaru er mwyn ail-greu’n well yr amodau mewn ymarfer ffwrnais chwyth fodern gyda chyfraddau cyflwyno glo a chyflwyno nwy uchel. Mae safon y gwaith a’r dadansoddi gan SaMI wedi bod o’r safon uchaf.